We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy

Comisiynydd yn codi llais ar doriadau

15 June 2010

Comisiynydd y CDC yng Nghymru, Peter Davies, yn trafod sut gall datblygu cynaliadwy helpu Cymru i ddelio â thoriadau ariannol.

Peter DaviesRydym bellach yn gwybod, oni bai ei bod yn dewis gohirio, y bydd gan Lywodraeth y Cynulliad £162.5 miliwn yn llai i’w gwario. Flwyddyn wedi datgan mai datblygu cynaliadwy yw ei ‘Phrif Egwyddor Drefniadol’, mae’r toriadau hyn yn awr yn brawf ar sut mae’n rhoi’r egwyddor hon ar waith.

Weithiau gwneir y camgymeriad o weld datblygu cynaliadwy fel ‘ychwanegiad’ – rhywbeth dros ben yr ydym ni’n talu amdano i wella’r amgylchedd, er enghraifft. Yn wir, yn gynharach eleni, dywedodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y broses o wneud penderfyniadau yn Llywodraeth y Cynulliad fod:

‘Datblygu cynaliadwy yn cael ei weld fel un o nifer o flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, yn hytrach na’r modd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn rheoli’r blaenoriaethau sydd yn cystadlu â’i gilydd’

Yn amlwg, mae rhaid i hyn newid. Os ydym i gael mwy am lai, i fwyafu gwerth pob punt yng nghyllideb Cymru, ac i gynllunio ar gyfer y tymor hir, mae’n rhaid i ni sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn holl adrannau Llywodraeth y Cynulliad. Yn fwy nag o’r blaen, mae angen penderfyniadau call sy’n edrych ar ystod eang o effeithiau. Mae angen hefyd i ni ystyried cyfleoedd a pheryglon yn y dyfodol, megis prisiau ynni, yr effeithiau tymor hir ar iechyd, a sut rydym ni’n addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Mae rhai enghreifftiau gwych o’r dull hwn eisoes. Mae prosiect ARBED Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi miliynau er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a gosod dyfeisiau ynni adnewyddadwy yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Y nod yw mynd i’r afael â thlodi a’r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd, gan ddarparu swyddi a pharatoi ar gyfer perygl biliau tanwydd uchel yn y dyfodol.

Efallai bydd rhai yn dadlau na allwn ni fforddio’r math hwn o ddull yn awr, ond yn fy marn i allwn ni ddim fforddio PEIDIO â defnyddio dull call, cydlynus, tymor hir o feddwl. Mae angen i ni wneud toriadau – felly gadewch i ni sicrhau bod datblygu cynaliadwy’n ganolog i’r penderfyniadau hynny.

Gallai gwneud y math anghywir o doriadau mewn un maes arwain at gostau uwch mewn mannau eraill neu greu problemau at y dyfodol. Enghraifft allweddol yw caffael yn y sector cyhoeddus – mae perygl bellach y bydd y pwysau ar gyllidebau yn gyrru rheolwyr i ddewis yr opsiwn rhataf bob tro.

Mae caffael bwyd yn lleol yn un maes sydd mewn perygl. Fel y nododd yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd mewn erthygl i gylchgrawn Food Ethics:

“Mae oes newydd ddarbodus, wedi’i chyfuno ag “arbedion effeithlonrwydd” fel y’u gelwir, yn bygwth gwyrdroi’r buddugoliaethau bychain a gafwyd ym maes caffael bwyd yn y sector cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.

Fel y gwyddom, gallai tueddiad i brynu’r bwyd rhataf posib fod â goblygiadau o ran iechyd yn ogystal â’r effaith economaidd ar gymunedau lleol.

Felly yn lle hynny, gadewch i ni weld sut gallwn ni greu’r cysylltiadau. Sut gall ein polisïau trafnidiaeth roi hwb i’r economi a lleihau’r pwysau ar y GIG? Sut gallwn ni gefnogi amaethyddiaeth a lleihau biliau ynni? Sut gall gweithredu i wella’r amgylchedd greu swyddi?

Yn ystod y flwyddyn sy’n dod rydym yn ymroddedig i weithio gyda’r Llywodraeth i greu atebion ymarferol i rai o’r problemau sydd wedi’u gwreiddio ddyfnaf yng Nghymru. Drwy wneud hynny, rydym ni’n credu y gallwn ni helpu’r Llywodraeth i droi argyfwng yn gyfle i ymateb i raddfa a brys yr heriau sy’n ein hwynebu.

< Back