We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy

Publications

Cymru Iach Gynaliadwy

Date:31/05/2007
Classification:Sustainable Consumption & Production, Food, Governance, Health, Transport, Sustainable Communities
Document type:SDC Reports & Papers
Download:Cym SD Toolkit May 07 version.pdf - 1000 KB
Summary:imageMae’r GIG yng Nghymru yn ddefnyddiwr ynni a dŵr mawr, yn prynu symiau enfawr o nwyddau a gwasanaethau, yn cyflogi mwy na 90,000 o bobl, yn berchen ar ddarnau anferth o dir a channoedd o adeiladau, yn cynhyrchu gwastraff aruthrol ac yn ffocws mewn nifer o gymunedau.

Mae hyn yn golygu bod gan GIG Cymru nid yn unig gyfrifoldeb i weithredu’n gynaliadwy, ond cyfle hefyd i wneud cyfraniad helaeth iawn i les ei staff, ei gleifion, y cymunedau economaidd a chymdeithasol ehangach, ac i’r amgylchedd.



Purpose:Nod y Pecyn yw disgrifio sut y gall cyrff unigol y GIG yng Nghymru, yn cynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG a chontractwyr GIG lleol, asesu eu polisi a’u harferion datblygu cynaliadwy presennol. Mae’n canolbwyntio ar feysydd ymarfer a pherfformiad penodol ac yn hyrwyddo hunan-asesu.

Dyfeisiwyd y pecyn a’r broses asesu i gyd-fynd â’r Canllawiau ar Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae’r Fframwaith Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru, sydd wedi datblygu ochr yn ochr â’r Pecyn, yn gyson â’r dull hwn gan y GIG o sicrhau cytgord rhwng gwasanaethau Llywodraeth Leol a iechyd lleol.

Tell a friend | Write a review | See all reviews >

Back