We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Am y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy
Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o waith y Comisiwn ar draws y Deyrnas Unedig yn Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am waith y Comisiwn yng Nghymru yn Gymraeg, ewch i adran Cymru ar y safle. Mae nifer o gyhoeddiadau'r Comisiwn hefyd ar gael yn Gymraeg.
» SDC publications available in Welsh » Cyhoeddiadau CDC sydd ar gael yn Gymraeg
Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (CDC) yw ymgynghorydd annibynnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddatblygu cynaliadwy. Rydym yn gorff cyhoeddus gweithredol anadrannol (NDPB) (annibynnol) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Mae'r cwmni ym mherchnogaeth lwyr llywodraethau'r DU, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac fe'i rheolir gan Fwrdd. Fe'n llywodraethir gan Gytundeb Fframwaith y cytunwyd arno gyda phedair Llywodraeth y DU. Mae'r cytundeb yn cyflwyno ein cyfrifoldebau ac yn tywys gwaith Bwrdd a Thîm Rheoli'r CDC.
» Ein Cytundeb Fframwaith (Saesneg)
Gwerthoedd ein Sefydliad
Rydym yn ymdrechu i fod yn:
Awdurdodol: – Mae cyngor y CDC wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn, gymhellol. Mae'r CDC yn atebol i'r Llywodraeth am ei argymhellion, ei effeithiau fel sefydliad a'i ddefnydd o adnoddau.
Cydweithrediadol: – Mae'r CDC yn gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth i lunio datrysiadau amserol, sy'n defnyddio adnoddau'n effeithiol. Rydym yn dod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ynghyd i drafod a bod yn rhan o gael hyd i atebion parhaol i faterion anodd.
Cadarnhaol: – Rydym yn cyflwyno gweledigaeth o gymdeithas gryfach, decach, iachach, sy'n byw oddi mewn i derfynau amgylcheddol, ac yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth sy'n meithrin yr ewyllys i newid trwy ganolbwyntio ar ddatrysiadau sy'n gweithio i bobl.
Tryloyw: – Gan ddilyn y Pum Egwyddor, mae'r CDC yn credu'n angerddol mewn llywodraethu da. Rydym yn dryloyw ac yn atebol i'r Llywodraeth a'r cyhoedd am ein hargymhellion, ein heffeithiau fel sefydliad a'n defnydd o adnoddau.
Ein rolau ar draws y Deyrnas Unedig
Mae gennym swyddfeydd yn Llundain, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. Rydym yn gweithio fel un corff, gyda mynediad i Lywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig.
Mae ein rolau ym mhob gweinyddiaeth fel a ganlyn:
Yn achos Llywodraeth y DU mae gan y CDC swyddogaeth corff gwarchod swyddogol, yn craffu ar gynnydd o ran gweithredu ei strategaeth datblygu cynaliadwy: yn monitro targedau ar gyfer rheoli ystâd y Llywodraeth a chaffael yn gynaliadwy. Rydym yn cyfuno hyn â darparu cyngor ar bolisi a helpu i feithrin gallu ar draws amrywiaeth o adrannau.
Mae'r CDC yn cyflawni rôl graffu a chynghori debyg ar gyfer Llywodraeth yr Alban, gan ddarparu adolygiad annibynnol blynyddol o gynnydd ym maes datblygu cynaliadwy, a chyngori a meithrin gallu ar nifer o faterion.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r CDC yn gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth, gan ddarparu cyngor arbenigol a meithrin gallu, a thrwy hynny helpu i gyflawni Strategaeth Datblygu Cynaliadwy a Chynllun Gweithredu newydd y Weithrediaeth.
Gwaith y Comisiwn yng Nghymru
Mae tîm Cymru y CDC yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru – sydd â dyletswydd gyfreithiol yng nghyswllt datblygu cynaliadwy – gan ddarparu cyngor ar bolisi, meithrin gallu ac asesu annibynnol i helpu i sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol y llywodraeth.
Mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys:
Yr Amgylchedd Adeiledig - Mae'r CDC wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o helpu i gyflawni amgylchedd adeiledig carbon isel. Ym mis Tachwedd 2008, lansiodd y CSC Siarter Adeiladau Gwyrdd arloesol ar y cyd â LlCC a Chomisiwn Dylunio Cymru. Mae dros 50 o sefydliadau wedi llofnodi cytundeb i gynnal y cynnydd tuag at adeiladau carbon isel neu ddi-garbon. Er mwyn cydlynu gwaith y llofnodwyr, bu'r CDC yn cefnogi ffurfio Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon – partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Newid yn yr Hinsawdd - Mae'r Comisiwn wedi cefnogi gwaith i leihau allyriadau carbon trwy'r ‘Prosiect Rhanbarthau Carbon Isel’. Yn 2008, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ni i helpu i gyflawni ei nod, sef bod pob rhanbarth yn datblygu ‘cynlluniau ymarferol i symud tuag at fod yn rhanbarth carbon isel’. Buom yn gweithio gyda swyddogion y llywodraeth a sefydliadau allweddol eraill, yn ogystal â chyflawni ymchwil arall, i gynhyrchu adroddiad ‘Cymru Carbon Isel’ yn 2009. Mae'r adroddiad yn disgrifio beth yw ‘rhanbarth carbon isel’ ac yn rhoi cyngor wedi'i deilwra ar sut gall pob rhanbarth yng Nghymru leihau ei allyriadau. Wedi lansio'r adroddiad, buom yn cefnogi Grwpiau Ardal Cynllun Gofodol Cymru i sefydlu ‘gweithgorau carbon isel’ er mwyn cydlynu prosiectau ymarferol i leihau'r allyriadau carbon ym mhob rhanbarth.
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cefnogi datblygiad Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, ac yn 2010, penodwyd Comisiynydd Cymru CDC, Peter Davies, yn gadeirydd annibynnol cyntaf arno.
Economeg – Rydym wedi defnyddio ein harbenigedd a'n hymwneud â rhanddeiliaid i hybu trafodaeth ynghylch economi gynaliadwy a darparu dadansoddiad arbenigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym wedi cyfrannu at ddatblygiadau polisi pwysig, gan roi mewnbwn i Strategaeth Swyddi Gwyrdd Llywodraeth y Cynulliad, y Rhaglen Adnewyddu Economaidd a gwaith dilynol i archwilio'r heriau y mae'r seilwaith hanfodol yn eu hwynebu.
Iechyd - Mae'r Comisiwn wedi gweithio'n agos gydag Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Buom yn cefnogi ailsefydlu Grŵp Llywio Datblygu Cynaliadwy GIG Cymru, ac yn helpu gydag asesiadau o dan y Safon Iechyd Gorfforaethol Blatinwm, cynllun lle gall cyflogwyr yng Nghymru wneud cais am gydnabyddiaeth ffurfiol i'w mentrau Cyfrifoldeb Corfforaethol a Dinasyddiaeth Dda. Bu'r Comisiwn hefyd yn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio GIG Cymru yn strwythurol. Derbyniodd y Gweinidog Iechyd ein hargymhelliad y dylai datblygu cynaliadwy gael ei ymgorffori i gyfansoddiad y cyrff newydd.
Adnoddau Naturiol a Defnydd o Dir – Roedd gwaith y Comisiwn yn y maes hwn yn cynnwys ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fframwaith Amgylchedd Naturiol newydd a darparu cymorth ysgrifenyddol ar gyfer y Grŵp Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd, a sefydlwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig.